Monday, June 13, 2011

Croeso i flog Cwrw Llŷn.

Diodydd â blas lleol arnyn nhw ydi cynnyrch bragdy Cwrw Llŷn. Mae’r bragu yn
digwydd mewn hen feudy yng nghefn gwlad Llŷn, gan ddefnyddio dŵr meddal yr
ardal. Yn ogystal â bod yn gwrw lleol, mae enwau gwahanol gynnyrch y bragdy
yn dal naws a chymeriad y rhan hon o Gymru.


Cwmni o ddeuddeg o bobl leol sydd y tu cefn i’r fenter. Cododd
yr awydd i fragu cwrw wrth weld bod bri a marchnad i gynnyrch a diwylliant
lleol. Mae bragdai bychain ledled Cymru bellach yn bragu cwrw o safon, sy’n
fwy blasus a iachus, yn fwy ‘gwyrdd’ a chyda llai o lwybr carbon, na
chynnyrch y cwmnïau cemegol mawrion. Mae Cwrw Llŷn bellach yn rhan o’r
profiad o fyw ac o ymweld â’r ardal hon.


                  Cwrw Llŷn


Berw’r cwrw mewn cerwyn, – yr haidd aur
        Yn rhyddhau’i belydryn
    Ac mae oglau llwybrau Llŷn
    I’w godro o bob gwydryn.

No comments:

Post a Comment