Wednesday, July 13, 2011

Lawnsio Brenin Enlli

Poster Lawnsio Brenin Enlli by CwrwLlŷn
Poster Lawnsio Brenin Enlli, a photo by CwrwLlŷn on Flickr.

Dewch yn llu i Dafarn y Fic, Llithfaen wythnos i ddydd Sadwrn i fwynhau cerddoriaeth, golygfeydd a chwrw arbennig iawn.

Friday, July 8, 2011

Bragu yn mynd o nerth i nerth

Dal i fragu fel fflamia, a'r bragdy bach dan ei sang o leia ddwy waith yr wythnos erbyn hyn. Mae bragu Cwrw Llŷn yn ddigwyddiad cymdeithasol iawn Gan fod y broses yn cymeryd chwe awr i'w chwblhau a ninna wrthi gyda'r nôs gan amla, mae rhywyn yn rhoi ei drwyn i mewn am sgwrs bob hyn a hyn, sydd reit braf. Cofiwch am y diwrnod lawnsio ar Sadwrn y 23ain yn y Fic, Llithfaen(manylion i ddilyn. Brenin Enlli fydd enw'r cwrw a dyma ddisgrifiad...

Pen llachar fel Swnt garw,-yna'r corff
hir, copr; Brenin-gwrw
o lys eu hen ynys nhw
a choron ar bob chwerw

Wednesday, June 29, 2011

Allforio Cwrw Llyn

Mi fydd 'na Gwrw Llŷn ar gael yn Y Plu, Llanystumdwy nôs Wener. Mae'r casgeni wedi mynd yno yn barod ac yn cael ei gorffwyso ar ol y siwrna faith i bellafoedd Eifionydd 'na. Tafarn dda 'di'r Plu - croeso cynnas cymreig bôb tro.

Sunday, June 26, 2011

Cwrw Llyn

Blas yn dew dan yr ewyn, – yr haidd aur
            Yn rhyddhau’i belydryn:
         Mae aroglau llwybrau Llŷn
         I’w godro o bob gwydryn.

Saturday, June 25, 2011

Cwrw Da,Cwrw Difyr

Casgan o Gwrw Llŷn wedi mynd i Westy Tŷ Newydd Aberdaron ar gyfer penwythnos yma ac wedi plesio pawb sydd wedi cael jochiad ohoni. Mae o'n dal i werthu fel slecs yn Y Fic ac yn Penlan Fawr.
Iwan Foel a Huws Jôs wedi gneud bragiad bob un yn ystod yr wythnos, ac wedi cael hwyl dda iawn. Y cwrw wrthi yn eplesu erbyn hyn. Bydd cwrw bragiad dydd Mercher yn cael ei oeri rwan ac yna yn cael ei gasgennu nôs Fawrth nesa ac yn barod i'w yfad 'mhen wythnos arall. Gaddo diwrnod braf iawn fory, be am ddiwrnod ar y taeth yn Aberdaron a piciwch mewn i Tŷ Newydd am beintyn o Gwrw Llŷn. Diwrnod lawnsio Cwrw Llŷn 23ain Gorffennaf yn Fic Llithfaen, taith gerdded, grwpiau a ballu - mwy o fanylion i ddilyn.....

Saturday, June 18, 2011

Bragiad arall

Wedi bragu eto neithiwr, Capten Huws Jos wrth y llyw, a chriw hwyliog yn ei gynorthwyo. Mi ydan ni wedi cael casgen eplesu newydd erbyn hyn hefyd - un sy'n dal mwy o'r brag, felly bydd yn bosibl i ni gynhyrchu mwy o gasgeni o bob bragiad.
Casgen arall wedi mynd i Penlan Fawr Pwllheli bore heddiw, a mae gan Fic Llithfaen stoc dda erbyn hyn yn barod at heno.

Os nac wyt ti wedi profi peint o Gwrw Llyn eto dos am Fic neu Penlan - mae o'n chwip o beint, heb fod yn rhy chwerw, hefo ewyn yn cydio i ochra'r gwydyr reit i'r diwadd.... gena'i ffansi picio fyny i'r Fic rwan deud y gwir......

Monday, June 13, 2011

Blog y Bragdy.

Mae Cwrw Llŷn ar gael yn Fic yn Llithfaen, ac mi fydd ar gael yn fuan iawn yn Penlan Fawr, Pwllheli.

Cwrw Llŷn is available at the Fic in Llithfaen and will be available shortly in the Penlan Fawr, Pwllheli.